Cartref > Cyngor a Chymorth > Cymorth ac Adnoddau Rhianta
Parents and child colouring together.

Cymorth ac Adnoddau Rhianta

Mae Gwasanaeth Rhianta'r Fro yn cefnogi teuluoedd sydd â phlant rhwng 0 a 18 oed, sy'n byw yn ardal Bro Morgannwg.

Rydym yn darparu rhaglenni rhianta mewn lleoliad grŵp bach, neu fel cymorth un i un yn y cartref i wneud i chi deimlo'n fwy hyderus wrth reoli ymddygiad, arferion a ffiniau.

Rydym yn canolbwyntio ar hybu lles emosiynol a chefnogi perthnasoedd teuluol cadarnhaol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth a'r cymorth rydyn ni'n ei gynnig drwy edrych ar Wasanaeth Rhianta’r Fro Padlet:

Rhaglenni Rhianta

Mae nifer o raglenni rhianta’n cael eu cynnal ym Mro Morgannwg. Gallwch weld y rhestr lawn yma:

Adnoddau Defnyddiol

Magu Plant. Rhowch amser iddo. (Llywodraeth Cymru)

Awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol am ddim ar gyfer eich holl heriau magu plant:

Hyb Cymorth Ymddygiad

Dan arweiniad rhieni, ar gyfer rhieni sy'n gofalu am blant ag ymddygiad sy'n heriol a chyflyrau niwroamrywiol:

Family Lives

Mae Family Lives yn cynnig gwasanaeth llinell gymorth gyfrinachol ac am ddim i deuluoedd yng Nghymru a Lloegr (a elwid gynt yn Parentline). Ffoniwch 0808 800 2222 am wybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth ar unrhyw agwedd ar rianta a bywyd teuluol:

Teulu Cymru

Mae Teulu Cymru yn adnodd gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig gwybodaeth am ofal plant neu gymorth ariannol. Mae yna gyngor gan arbenigwyr, yn ogystal ag awgrymiadau a gwybodaeth arall i'ch helpu ar hyd y ffordd. 

Mae Teulu Cymru yn darparu gwybodaeth am:

  • Gyllid teuluol
  • Gofal plant a chymorth lleol i deuluoedd
  • Awgrymiadau a chyngor rhianta

Sefydliadau Eraill

Vale Parenting Service logo