Cartref > Diogelu

Diogelu

Mae Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yn ymroddedig i fynd i'r afael â phryderon ynghylch lles neu ddiogelu plant a phobl ifanc.

Mae ein Tîm Derbyn yn chwarae rhan hanfodol wrth ddrws ffrynt Gwasanaethau Plant statudol. Maent yn sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y lefel gywir o gymorth ac ymyrraeth ar yr adeg iawn.

Os yw plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999, fel arall gallwch adrodd am bryder am blentyn neu berson ifanc i Gwmpawd Teulu'r Fro drwy ffonio 0808 281 6727 (opsiwn 3) i gyrraedd y Tîm Derbyn, neu e-bostio familycompass@valeofglamorgan.gov.uk.