
Ysgolion
Mae gan Fro Morgannwg 55 o ysgolion, gan gynnwys Ysgolion Meithrin, Cynradd ac Uwchradd.
Cyn i chi gwblhau cais, rydym yn argymell eich bod yn ymchwilio i'ch dewis ysgol. Casglu cymaint o wybodaeth â phosibl am yr ysgolion yn eich ardal. Fel hyn, gallwch benderfynu pa ysgol fyddai'n diwallu anghenion eich plentyn. Er mwyn eich helpu i benderfynu ar eich dewis ysgolion gallwch:
- Siarad â rhieni eraill
- Edrych ar wefannau ysgolion
- Gallwch ddarllen adroddiadau diweddaraf Estyn am yr ysgolion
- Trefnu ymweliad neu fynd i ddiwrnod agored
Derbyn i’r Ysgol
Derbyn i Ysgol Uwchradd
Dyddiad Agor: 18 Medi 2026
Dyddiad Cau: 29 Hydref 2026
Dyddiad Cynnig: 01 Mawrth 2027
Gwnewch gais am 3 ysgol yn nhrefn blaenoriaeth. Argymhellwn mai un dewis yw ysgol ddalgylch eich plentyn. Ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, sylwer nad oes angen i chi gyflwyno tri dewis ysgol. Os dymunwch i'ch plentyn fynychu Ysgol Uwchradd Cyfrwng Cymraeg, dewiswch yr unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg, Ysgol Bro Morgannwg fel yr ysgol o'ch dewis.
Derbyn Plant i'r Ysgolion Cynradd
Dyddiad Agor: 27 Tachwedd 2026
Dyddiad Cau: 14 Ionawr 2027
Dyddiad Cynnig: 16 Ebrill 2027
Derbyn i’r Ysgol Feithrin
- Dyddiad Agor: 22 Ionawr 2027
- Dyddiad Cau: 19 Mawrth 2027
- Dyddiad Cynnig: Bydd dyddiad cynnig eich plentyn yn dibynnu ar y term y mae'n dechrau meithrin ynddo, gweler isod:
Cewch wybod am y penderfyniad fel a ganlyn, os cafodd eich plentyn ei eni rhwng:
1 Medi 2023 - 31 Awst 2024 - Byddant yn dechrau yn y feithrinfa ym mis Medi 2027. Bydd hysbysiad yn cael ei roi ar 28 Mai 2027
1 Medi 2024 - 31 Rhagfyr 2024 - Byddant yn dechrau yn y feithrinfa ym mis Ionawr 2028. Bydd hysbysiad yn cael ei roi ar 22 Hydref 2027
1 Ionawr 2025 - 31 Mawrth 2025 - Byddant yn dechrau yn y feithrinfa ar ôl Pasg 2028. Bydd hysbysiad yn cael ei roi ar 14 Ionawr 2028
Ysgolion dalgylch
Nid oes angen i blentyn fyw o fewn dalgylch ysgol i fod yn gymwys i fynychu'r ysgol honno. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn ystyried cynnwys eich ysgol ddalgylch fel dewis wrth wneud cais am le mewn ysgol.
Mae plant sy’n byw yn yr ardal hon yn cael blaenoriaeth uwch o ran lle yn eu hysgol ddalgylch o gymharu ag ysgolion eraill a allai fod o ddiddordeb iddynt.
Nid yr ysgol sydd agosaf at gartref y plentyn yw’r ysgol ddalgylch bob tro. Gallwch ddod o hyd i'ch ysgolion dalgylch ar-lein. Nid yw byw yn nalgylch ysgol yn gwarantu lle i chi yn yr ysgol honno.

