Cartref > Report a concern

Rhoi gwybod am Bryder

Os yw plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999, neu, os ydych chi'n poeni am ddiogelwch rhywun, ffoniwch ni ar 0808 281 6727 (opsiwn 3) i rannu eich pryderon.

I roi gwybod am bryder y tu allan i oriau swyddfa (gyda'r nos a phenwythnosau), cysylltwch â'r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar 029 20 788570.

Efallai y byddwn yn gofyn i chi am ychydig mwy o wybodaeth fel y gallwn ddeall beth sy'n digwydd a chymryd y camau cywir i helpu.