
Cymorth i Deuluoedd
Mae amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth i deuluoedd ar gael ledled y Fro a all gynnig help gyda rhianta, perthnasoedd, lles, cyllid, a heriau ymarferol yn y cartref.
The Early Help Services can connect you to the right support for your family’s needs, whether that’s parenting programmes, emotional wellbeing services, financial advice, or community activities.
Ein nod yw ei gwneud hi'n haws i deuluoedd gael mynediad at yr help sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt fwyaf.
Tîm o Amgylch y Teulu

Mae’r Tîm o Amgylch y Teulu yn cynnig ymyrraeth gydgysylltiedig i deuluoedd sydd ag ystod o anghenion sydd angen cymorth gan sawl asiantaeth. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi'r teulu cyfan i archwilio eu cryfderau yn ogystal â'u hanghenion, gan sicrhau bod yr holl wasanaethau perthnasol yn eu lle. Bydd y gweithiwr Tîm o Amgylch y Teulu yn cynnal cyfarfodydd amlasiantaethol yn rheolaidd i adolygu cynllun gweithredu sy'n canolbwyntio ar y teulu.
Mae'r tîm yn helpu Plant, Pobl Ifanc (0-18 oed) a'u Teuluoedd, a allai elwa o gymorth ychwanegol i oresgyn anawsterau a gwneud newidiadau cadarnhaol. Rydym yn cynnig gwaith uniongyrchol gyda rhieni, plant a phobl ifanc yn ogystal â gweithio'n agos gyda gwasanaethau eraill i gael y cymorth gorau i ddiwallu unrhyw anghenion a nodwyd.
Mae'r gwasanaeth ar gael o:
- Ddydd Llun i ddydd Iau: 9am - 5pm
- Dydd Gwener 9am - 4.30pm
I gael mynediad at y Gwasanaeth Tîm o Amgylch y Teulu, cysylltwch â Chwmpawd Teulu’r Fro ar 0808 281 6727 Oa fydd yn eich cyfeirio at wasanaethau Cymorth Cynnar
Dechrau'n Deg

Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd penodol i gefnogi pob teulu i roi Dechrau Teg mewn bywyd i blant 0-3 oed. Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a’u teuluoedd.

