Cartref > Gwybodaeth > Dewis Gofal Plant
kids with their teacher sitting on the floor

Dewis Gofal Plant

Gwybodaeth ar ddod o hyd i ofal plant ym Mro Morgannwg gan gynnwys y mathau o ofal plant sydd ar gael

Chwiliwch am ofal plant, gweithgareddau i blant a gwasanaethau cymorth i deuluoedd yn y Fro gan ddefnyddio Cyfeiriadur Gwybodaeth Gofal Plant Cymru. 

Neu cysylltwch â ni'n uniongyrchol ar gyfer eich anghenion gofal plant drwy lenwi ein ffurflen ymholiadau ar-lein neu ein ffonio ni. Bydd yr holl ddata'n cael ei storio yn unol â rheoliadau diogelu data, fel y nodir yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.

ysylltwch â Chwmpawd Teulu’r Fro ar 0808 281 6727 a phwyso opsiwn 2 am Wybodaeth. Byddwch yn cael eich trosglwyddo i'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS).

E-bost: familycompass@valeofglamorgan.gov.uk

Dewis gofal plant

Beth bynnag yw eich rheswm dros fod eisiau gofal plant, mae sawl opsiwn i ddiwallu'ch anghenion. Mae dewis y gofal plant cywir yn bwysig ond gall fod yn anodd. Mae cymaint o bethau i'w hystyried! Bydd y wefan hon yn rhoi gwybod i chi am y bydd-daliadau a’r mathau gwahanol o ofal plant sydd ar gael, ble i ddod o hyd i ofal plant a pha gymorth ariannol sydd ar gael i'ch helpu gyda chostau gofal plant:

Bydd y wefan hon yn rhoi gwybod i chi am y bydd-daliadau a’r mathau gwahanol o ofal plant sydd ar gael, ble i ddod o hyd i ofal plant a pha gymorth ariannol sydd ar gael i'ch helpu gyda chostau gofal plant:

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) - Pwy ydyn nhw a beth maen nhw'n ei wneud?

Care Inspectorate Wales Logo

CIW AGC yw’r rheoleiddiwr annibynnol gofal plant (a gofal cymdeithasol) yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd yn cael eu rheoleiddio gan AGC. Mae AGC yn cofrestru ac yn arolygu lleoliadau ac yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau, gan sicrhau y byddwch chi a'ch plentyn yn cael y profiadau a'r cyfleoedd gorau.

Os yw lleoliad gofal plant yn rhedeg am fwy na 2 awr y dydd ar gyfer plant hyd at 12 oed, neu am fwy na 5 diwrnod bob blwyddyn, rhaid iddo gael ei gofrestru gyda AGC yn ôl y gyfraith. Mae AGC yn sicrhau bod gwasanaethau gofal yn bodloni'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ac yn cefnogi hawliau plant. Am fwy o wybodaeth, gweler y canllaw dewis gofal plant.

Mathau o leoliadau gofal plant

Mae mathau gwahanol o leoliadau gofal plant, sy'n amrywio yn ôl:

  • oed y plant y maent yn gofalu amdanynt,
  • y math o adeilad y maent yn gweithredu ohono,
  • pa bryd maent ar agor, a’r
  • iaith/ieithoedd y maent yn eu defnyddio (Cymraeg neu Saesneg).

Efallai eich bod eisoes yn gwybod pa fath o ofal plant rydych chi ei eisiau, neu efallai yr hoffech edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael yn eich ardal. Dyma restr lawn o'r gwahanol fathau o ofal plant:

Gwarchodwr plant

Mae gwarchodwr plant yn darparu gofal plant o'u cartref.

Oed y plant

0 to 12

Oriau agor a sesiynau

Mae gwarchodwyr plant fel arfer yn hyblyg, ond mae hyn yn dibynnu ar y galw. Gallant gynnig:

  • gofal cyn ysgol (brecwast),
  • gofal cofleidiol ar gyfer addysg ran-amser yn y blynyddoedd cynnar,
  • diwrnodau llawn neu ran o’r diwrnod ar gyfer plant cyn oed ysgol, a
  • gofal gwyliau diwrnod llawn
Ieithoedd

Cymraeg, Saesneg, dwyieithog

Meithrinfa gofal dydd llawn

Mae meithrinfa gofal dydd llawn fel arfer yn darparu gofal plant o adeilad pwrpasol.

Oed y plant

0 to 12

Oriau agor a sesiynau

Mae llawer o feithrinfeydd yn darparu:

  • Sesiynau grŵp chwarae i blant 2 - 3 oed,
  • gofal cofleidiol i blant 3 - 4 oed

Ar gyfer plant oed ysgol, mae rhai meithrinfeydd yn darparu:

  • gofal cyn ysgol (brecwast) o 7am i 9am,
  • gofal ar ôl ysgol rhwng 3pm/3:30pm a 6pm, a
  • gofal gwyliau diwrnod llawn

Ieithoedd

Cymraeg, Saesneg, dwyieithog.

Grwpiau chwarae

Gall grwpiau chwarae ddarparu gofal ar safleoedd ysgol, ond mae llawer yn darparu gofal o safle a rennir. Er enghraifft, mewn neuadd eglwys neu gwt Sgowtiaid.  

Oed y plant

Maent yn cynnig:

  • sesiynau cyn-ysgol i blant 2 - 3 oed, a
  • gofal cofleidiol i blant 3 - 4 oed mewn addysg ran-amser yn y blynyddoedd cynnar
Oriau agor a sesiynau

Maent yn cynnig:

  • 1 sesiwn fer y dydd. Er enghraifft, 9am i 11:30am, neu
  • 2 sesiwn gyda seibiant rhyngddynt.

Os yw darparwr cylch chwarae wedi'i gofrestru fel gofal dydd llawn a bod plant yn croesi drosodd amser cinio, nid yw plant yn aros am fwy nag 1 sesiwn y dydd.

Ieithoedd

Cymraeg, Saesneg, dwyieithog

Cylch Meithrin

Gall Cylch Meithrin ddarparu gofal ar safleoedd ysgolion, ond mae llawer yn darparu gofal o safle a rennir.

Er enghraifft, mewn neuadd eglwys neu gwt Sgowtiaid.

Oed y plant

Maent yn cynnig:

  • sesiynau cyn-ysgol i blant 2 - 3 oed, a
  • gofal cofleidiol i blant 3 - 4 oed mewn addysg ran-amser yn y blynyddoedd cynnar
Oriau agor a sesiynau

Maent yn cynnig:

  • 1 sesiwn fer y dydd. Er enghraifft, 9am i 11:30am, neu
  • 2 sesiwn gyda seibiant rhyngddynt.

Os yw darparwr cylch chwarae wedi'i gofrestru fel gofal dydd llawn a bod plant yn croesi drosodd amser cinio, nid yw plant yn aros am fwy nag 1 sesiwn y dydd.

Ieithoedd

Cymraeg.

Y tu allan i oriau ysgol

Darperir gofal y tu allan i'r ysgol yn bennaf ar safleoedd ysgolion. Weithiau darperir y gofal mewn meithrinfa gofal dydd llawn neu gyda gwarchodwr plant.

Oed y plant

Plant 4 i 12 oed sy'n mynychu'r ysgol yn llawn amser (o'r dosbarth derbyn ymlaen).

Oriau agor a sesiynau

Maent yn darparu gofal ar ôl ysgol o 3pm neu 3:30pm i 6pm.

gofal cyn ysgol (brecwast),

Mae rhai ysgolion cynradd yn cynnig brecwast am ddim i blant cyn dechrau'r diwrnod ysgol, ond nid gofal plant cofrestredig gan AGC yw hwn.

Mae rhai lleoliadau'n darparu gofal gwyliau.

Ieithoedd

Cymraeg, Saesneg, dwyieithog.

Nanis

Mae nanis yn darparu gofal yng nghartref y rhiant neu ofalwr. Fel arfer, nid yw nanis wedi'u cofrestru gan AGC, ond gallant ymuno â’r Cynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021. Mae hyn yn eich galluogi i gael cymorth ariannol gyda chostau gofal plant.

Oed y plant

Fel arfer plant ifanc ond gall gynnwys plant oedran ysgol hefyd.

Oriau agor a sesiynau

Bydd nanis yn gweithio pan fydd eu hangen arnoch.

Ieithoedd

Cymraeg, Saesneg, dwyieithog.

Crèche

Gall Crèche ddarparu gofal plant dros dro i chi fynychu digwyddiadau penodol, fel:

  • hyfforddiant,
  • dysgu, neu
  • ddosbarth ymarfer

Darperir crèche fel y gellir gofalu am blant tra byddwch yn gwneud rhywbeth arall ar yr un safle.

Oed y plant

Plant ifanc fel arfer yn cynnwys plant oedran ysgol hefyd.

Oriau agor a sesiynau

Maent yn rhedeg ochr yn ochr â'r digwyddiad rydych chi'n ei fynychu.

Ieithoedd
Chwarae mynediad agored

Mae chwarae mynediad agored wedi'u cofrestru gydag AGC, ond mae plant yn rhydd i adael pryd bynnag y dymunant. Nid oes rhaid iddynt gael eu gollwng a'u casglu gan riant neu ofalwr.

Oed y plant

4 ac uwch (dosbarth derbyn ymlaen).

Oriau agor a sesiynau

Fel arfer yn ystod gwyliau'r ysgol yn unig.

Ieithoedd

Cymraeg, Saesneg, dwyieithog.

Darpariaethau eraill

Mae llawer o ddarpariaethau eraill ar gael, ond gan fod angen i'r rhiant neu'r gofalwr aros gyda'r plentyn a pharhau yn gyfrifol amdano, ni ellir eu hystyried yn ofal plant. Er enghraifft:

  • aros a chwarae
  • grwpiau rhieni a phlant bach, a
  • Ti a Fi.

Mae llawer o ysgolion yn cynnig clybiau gweithgareddau ar ôl ysgol, fel:

  • pêl-droed,
  • Ffrangeg, a
  • chodio.

Mae pob un o'r rhain fel arfer yn gweithredu unwaith yr wythnos yn unig. Efallai y bydd eich plentyn yn mynychu'r gweithgareddau hyn, ond nid yw'n cael ei ystyried yn ofal plant.

Dechrau'n Deg

Gallech fod yn gymwys am le gofal plant Dechrau'n Deg a ariennir. Mae'r gofal plant a ariennir yn darparu 12.5 o oriau o ofal plant o ansawdd uchel bob wythnos am 39 wythnos o'r flwyddyn, yn ystod tymor ysgol, i blant 2-3 oed.

I ddarganfod mwy a gweld a ydych yn gymwys i gael gofal plant Dechrau'n Deg, ewch i’w gwefan.

Dewis Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg

Waeth beth yw eich iaith yn y cartref, gall gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i’ch plentyn.  

Cylchoedd Meithrin 

Mae Cylchoedd Meithrin yn darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg i blant rhwng 2 oed ac oedran ysgol fel arfer. Mae Cylchoedd Meithrin yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gofal plant. Gall hyn gynnwys gofal dydd llawn, gofal sesiynol (am sesiynau 2 – 4 awr y dydd), neu ofal cofleidiol gyda'r ysgol leol. 

Nid yw'r rhan fwyaf o rieni sy'n anfon eu plentyn i Gylch Meithrin yn siarad Cymraeg eu hunain. Gallant fanteisio ar ddysgu Cymraeg gyda'u plant os dymunant. Dewch o hyd i Gylchoedd Meithrin ym Mro Morgannwg drwy fynd i wefan Mudiad Meithrin:   

Cylch Ti a Fi (Grwpiau Rhieni a Phlant Bach Cymraeg) 

Mae'r Cylch Ti a Fi yn croesawu babanod, plant bach, a'u rhieni / gofalwyr i aros a chwarae a chymdeithasu. Mae'r Cylch Ti a Fi yn cynnwys gweithgareddau chwarae difyr. Mae hefyd yn rhoi cyfle gwych i deuluoedd sydd ddim yn siarad Cymraeg i ddefnyddio'r Gymraeg am y tro cyntaf gyda'u plant. Dewch o hyd i Gylchoedd Ti a Fi yn y Fro drwy fynd i wefan Mudiad Meithrin:

Mae gennym hefyd amrywiaeth o ofal plant cyfrwng Cymraeg ar gael drwy warchodwyr plant, meithrinfeydd dydd a chlybiau y tu allan i'r ysgol. Dewch o hyd i ofal plant cyfrwng Cymraeg yn y Fro drwy ymweld â gwefan Gwybodaeth Gofal Plant Cymru: 

Am ragor o wybodaeth ewch i’r dudalen we Eich Taith Ddwyieithog:

Plant ag anghenion ychwanegol

Os ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr i blentyn gydag anghenion ychwanegol, mae'n naturiol i gael mwy i feddwl amdano. Mae angen i chi deimlo'n hyderus y bydd eu hanghenion yn cael eu diwallu. Rydych chi'n gwybod pa gefnogaeth sydd ei hangen ar eich plentyn a'r ffyrdd gorau o ofalu amdanynt.

Y Lleoliad
  • A yw'r gofod awyr agored yn hygyrch? A oes modd crwydro’r ystafell yn rhydd? A yw'n saff ac yn ddiogel?
  • A oes ganddyn nhw fannau tawel neu synhwyraidd?
  • A oes dyddiau neu amseroedd penodol pan fo'r lleoliad yn dawelach neu'n llai prysur?
  • A yw plant yn cael eu rhannu'n grwpiau yn ôl oedran neu allu?
  • Pa addasiadau y byddai angen iddynt eu gwneud er mwyn i'ch plentyn deimlo ei fod wedi'i gynnwys?
Ymarferwyr
  • Pwy yw eu Cydlynydd ADY? Pa brofiad a hyfforddiant sydd ganddyn nhw?
  • Ydyn nhw'n gyfarwydd â strategaethau cyffredinol, fel pethau gweledol? Er enghraifft, Goleuadau Traffig, Gwrthrychau Cyfeirio, a Nawr a Nesaf.
  • Pa hyfforddiant perthnasol sydd ganddyn nhw? Er enghraifft, Makaton, Prosesu Synhwyraidd, ac Awtistiaeth Sylw.
  • A fyddai angen mwy o hyfforddiant arnynt i ddiwallu anghenion eich plentyn?
  • Pa gymorth maen nhw'n ei gynnig i blant ag anableddau ac ADY?
  • Sut fydden nhw'n sicrhau bod eich plentyn yn cael yr un cyfleoedd chwarae a dysgu â phlant eraill?
  • Sut fydden nhw'n trin anabledd eich plentyn gyda phlant, rhieni neu ofalwyr eraill os oes ganddyn nhw gwestiynau?
  • Sut fyddan nhw’n cyfathrebu gyda chi am anghenion a chynnydd eich plentyn.
  • Sut maen nhw'n cysuro plant sy'n cynhyrfu?
  • A allwch chi gwrdd â staff eraill, ac a ydyn nhw'n rhyngweithio â'ch plentyn?
  • A ydyn nhw'n gyfforddus yn ymwneud ag anabledd eich plentyn?
Gwarchodwyr plant

Bydd llawer o’r cwestiynau i leoliadau ac ymarferwyr yn dal i fod yn berthnasol, ond efallai y bydd angen i chi ofyn:

  • A yw'r amgylchedd yn saff ac yn ddiogel? Er enghraifft, drysau a ffenestri diogel, dim mynediad i ffyrdd, ac ardal awyr agored gaeëdig.
  • A oes gan y gofalwr plant unrhyw brofiad o ADY? Efallai y bydd angen adnoddau ychwanegol, offer a mannau tawel neu synhwyraidd dynodedig.
  • A yw adnoddau a mannau storio personol yn anhygyrch? Er enghraifft, siediau tu fas a garejys.
Gweithio mewn partneriaeth
  • A yw'r lleoliad yn barod i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol ADY? Er enghraifft, caniatáu i arbenigwyr weld y plentyn yn y lleoliad (neu gartref i warchodwr plant) a mynychu cyfarfodydd Cynllun Gofal Personol.

Am fwy o wybodaeth ar gymorth i blant a phobl ifanc ag anableddau neu anghenion ychwanegol:

Cymorth i dalu am ofal plant

Ewch i'n tudalen help gyda chostau gofal plant am ragor o wybodaeth am gymorth ariannol a allai fod ar gael i chi. Mae hyn yn cynnwys: Cynnig Gofal Plant Cymru, Gofal Plant Di-dreth a lleoedd Dechrau'n Deg a ariennir:

Neu cysylltwch â ni'n uniongyrchol ar gyfer eich anghenion gofal plant drwy lenwi ein ffurflen ymholiadau ar-lein. Bydd yr holl ddata'n cael ei storio yn unol â rheoliadau diogelu data, fel y nodir yn Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Bro Morgannwg. Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Bro Morgannwg.