
Eiriolaeth i Blant a Phobl Ifanc
Mae'r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS) Cymru yn elusen flaenllaw sy'n seiliedig ar hawliau. Maent yn darparu gwasanaethau eirioli annibynnol i blant ac oedolion ifanc ym Mro Morgannwg, rhwng 5 a 25 oed, y maent yn gysylltiedig â gwaith cymdeithasol.
Mae eiriolwyr yn annibynnol. Maent yn cefnogi'r plentyn neu'r person ifanc i sicrhau bod ei hawliau'n cael eu diogelu, ei farn yn cael ei pharchu, a'i lais yn cael ei glywed, yn enwedig pan fydd penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud amdano.
I gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at Ganllaw Gwasanaeth NYAS Cymru:
Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol:
Project Unity
Mae Project Unity yn brosiect cymorth annibynnol gan NYAS Cymru. Mae'r prosiect yn cynnig cymorth, cyfleoedd, addysg a hyfforddiant dwys i fenywod beichiog a mamau ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, hyd at 25 oed, ledled Cymru.
Gwasanaeth Ymwelwyr Annibynnol
Mae Ymwelwyr Annibynnol yn wirfoddolwyr hyfforddedig sy’n oedolion, sy'n darparu cyfeillgarwch a chymorth hirdymor i bobl ifanc mewn gofal. Mae cael Ymwelydd Annibynnol yn hawl statudol i bob person ifanc sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.


