Beth yw Cyfrifoldebau Diogelu'r Gwasanaethau Plant?
Cyfrifoldeb pawb yw cadw plant yn ddiogel (Gweithdrefnau Diogelu Cymru). O fewn Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, mae gennym rôl benodol. Rhaid i ni ymateb pan fyddwn yn poeni y gallai plentyn fod wedi dioddef niwed, neu'n debygol o ddioddef niwed. Manylir ar hyn dan y gyfraith (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014).
Beth yw ystyr niwed?
Gall niwed fod yn gorfforol, emosiynol, rhywiol neu esgeulustod. Gall fod yn fwriadol neu'n anfwriadol a gall fod yn niwed yn y teulu neu gan bobl y tu allan i'r teulu.
I gael rhagor o wybodaeth am wahanol fathau o niwed a phryderon diogelu eraill, ewch i wefan Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro.

