Beth yw Cydsyniad?

Wrth weithio gyda phlant a theuluoedd, rydyn ni am fod yn agored ac yn onest ynglŷn â sut a pham rydyn ni'n rhannu gwybodaeth.

Mae cydsyniad yn golygu eich bod yn rhoi caniatâd i ni gasglu neu rannu gwybodaeth am eich teulu. Lle bynnag y bo modd, byddwn bob amser yn gofyn am eich cydsyniad yn gyntaf – a byddwn yn esbonio beth rydyn ni eisiau ei wneud a pham.

Ond gall cydsyniad weithio'n wahanol yn dibynnu ar y sefyllfa. Dyma beth mae hynny'n ei olygu i chi.

Pan Fyddwn yn Cynnig Gofal a Chymorth

Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd – yn enwedig pan fyddwn yn cynnig cymorth neu gefnogaeth – byddwn yn gweithio gyda'ch cydsyniad. Mae hyn yn golygu:

  • Byddwn yn esbonio pa wybodaeth rydyn ni am ei chasglu
  • Byddwn yn trafod pwy y gallai fod angen i ni siarad â nhw
  • Byddwn yn sicrhau eich bod chi'n deall ac yn cytuno
  • Gallwch ofyn cwestiynau neu godi pryderon ar unrhyw adeg

Gweithio mewn partneriaeth yw hanfod gwaith gofal a chymorth. Rydyn ni am i chi deimlo'n gyfforddus, yn wybodus ac yn rhan o'r broses. Os ydych chi'n ansicr am unrhyw beth, byddwn yn cymryd amser i'w esbonio'n glir.

Pan Fyddwn yn Gwneud Gwaith Amddiffyn Plant (ymholiadau adran 47)

Weithiau, efallai y byddwn yn derbyn gwybodaeth sy'n awgrymu y gallai plentyn fod mewn perygl o niwed. Pan fydd hyn yn digwydd, mae dyletswydd gyfreithiol arnom i wneud yn siŵr bod y plentyn yn ddiogel.

Mae hyn yn golygu, mewn sefyllfaoedd amddiffyn plant, efallai y bydd angen i ni gasglu neu rannu gwybodaeth heb eich cydsyniad. Gall hyn gynnwys:

  • Siarad â gweithwyr proffesiynol eraill
  • Siarad â'ch plentyn
  • Ymweld â'ch cartref
  • Gwneud ymholiadau diogelu

Rydym yn deall y gall hyn deimlo'n bryderus, a dydyn ni byth yn cymryd y camau hyn ar chwarae bach. Os bydd rhaid i ni weithredu heb gydsyniad, byddwn bob amser yn esbonio beth rydym yn ei wneud, pam mae angen i ni ei wneud, a beth mae'n ei olygu i chi a'ch plentyn.

Plant a Chydsyniad

Mae gan blant hefyd hawl i fod yn rhan o benderfyniadau sy’n ymwneud â nhw. Yn dibynnu ar eu hoedran, eu dealltwriaeth a'r hyn sy'n teimlo'n briodol, efallai y byddwn yn gofyn i blant am eu cydsyniad eu hunain. Gallai hyn gynnwys:

  • Cytuno i siarad â ni
  • Rhannu eu meddyliau neu eu teimladau
  • Bod yn rhan o gyfarfodydd neu gynlluniau
  • Cytuno i fathau penodol o gymorth

Fel arfer, byddwn yn siarad â chi yn gyntaf ac yn egluro pam yr hoffem siarad â'ch plentyn. Byddwn hefyd yn siarad â'ch plentyn mewn ffordd sy'n ddiogel, yn gefnogol ac yn briodol i'w hoedran. Os yw'ch plentyn yn rhy ifanc neu os nad yw'n deall yn llawn, byddwn yn trafod pethau gyda chi ac yn esbonio sut y byddwn yn eu cynnwys yn ddiogel.