
Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl
Bydd yr ymgynghorwyr Cymorth Cynnar yn trafod beth sy'n bwysig i chi a'ch teulu, a sut i gael mynediad at yr help cywir ar yr adeg gywir.
Gall hyn gynnwys eich cyfeirio at ystod o wasanaethau sydd wedi’u nodi isod – neu roi gwybod i chi am wasanaethau eraill.
ysylltwch â Chwmpawd Teulu’r Fro ar 0808 281 6727 (option 1) to speak to Early Help Services.
Gwasanaeth Lles Ieuenctid

Mae’r Gwasanaeth Lles Ieuenctid yn cynnig cymorth targedig i bobl ifanc sydd wedi wynebu profiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod sy'n effeithio'n sylweddol ar eu lles.
Y prif ffocws yw cefnogi pobl ifanc 10-16 oed ym Mro Morgannwg.
Nodau craidd ein cymorth yw magu hyder, datblygu gwytnwch a gwella lles.
Rydym yn gweithio mewn cydweithrediad â gwasanaethau eraill a phartneriaid allweddol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cyrraedd eu potensial.
Prosiect Emoji (Gweithredu Dros Blant)

Rydym yn wasanaeth cymorth iechyd meddwl a lles lefel isel i blant mewn ysgolion cynradd, blynyddoedd 4 i 6 ym Mro Morgannwg. Rydym yn wasanaeth yn ystod y tymor yn unig.
Rydyn ni'n cynnig:
- Cymorth Grŵp yn YMCA y Barri (8 wythnos)
- Cymorth un i un yn ysgol gynradd eich plentyn (8-12 Wythnos)
YMCA Gofalwyr Ifanc

Mae Prosiect Gofalwr Ifanc YMCA yn cynnig cymorth grŵp i bobl ifanc rhwng 7 a 18 oed, sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Gallai hyn fod yn helpu i ofalu am aelod o'r teulu sy'n byw gyda nhw. Gallai'r aelod o'r teulu fod yn cael anawsterau gydag un neu fwy o'r canlynol: anabledd, salwch, problemau iechyd meddwl, a phroblemau’n ymwneud â chyffuriau ac alcohol.
Rydym yn cynnig gweithgareddau fel celf a chrefft, gemau, gweithdai dawns, gweithdai cyfryngau a chymorth gyda'r ysgol. Rydym yn cynnig cyfle i ofalwyr ifanc gwrdd ag eraill ledled y Fro.
Gwasanaethau eraill sydd ar gael ym Mro Morgannwg
- Gwasanaeth Cwnsela Barnardo’s mewn Ysgolion a Chymuned Bro Morgannwg: Cymorth cyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc.
- Platfform - Yr Hangout: Gofod diogel i bobl ifanc gymdeithasu a chael gafael ar gymorth
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIP Caerdydd a’r Fro): Mae BIP Caerdydd a’r Fro wedi datblygu gwefan gydag offer a chyngor i gefnogi iechyd meddwl a lles i blant dan 18 oed
- Cyfeiriadur Adnoddau Dewis Cymru: Adnodd ar gyfer archwilio gwasanaethau adfer iechyd meddwl lleol

