Beth yw Ymweliad â’r Cartref?

Mae ymweliad â’r cartref yn gyfle i ni gwrdd â chi a’ch teulu yn eich gofod eich hun. Mae'n ein helpu i ddeall eich arferion dyddiol, anghenion eich plentyn, ac unrhyw gymorth a allai fod o fudd i'ch teulu.

Rydyn ni’n gwybod y gall ymweliadau â’r cartref wneud i rai rhieni deimlo’n bryderus, ac mae hynny’n hollol normal. Ein nod yw bod yn agored, yn barchus ac yn glir ynglŷn â'r hyn rydyn ni'n ei wneud a pham.

Byddwn yn dechrau trwy gael sgwrs am sut mae pethau'n mynd. Rydyn ni am glywed beth sy'n mynd yn dda, pa heriau rydych chi'n eu hwynebu, a pha gymorth rydych chi'n teimlo fyddai'n gwneud gwahaniaeth. Sgwrs ddwyffordd yw hon, a gallwch ofyn cwestiynau ar unrhyw adeg.

Yn ystod yr ymweliad, efallai y byddwn yn gofyn am gael edrych o gwmpas eich cartref gyda chi. Gall hyn gynnwys:

  • Edrych ar yr ystafelloedd a'r trefniadau cysgu yn gyffredinol
  • Edrych yn y cypyrddau neu’r storfeydd bwyd, i ddeall arferion dyddiol
  • Gweld lle mae plant yn chwarae, yn cysgu, ac yn treulio amser

Efallai y byddwn yn treulio ychydig funudau yn siarad â'ch plentyn ar ei ben ei hun. Bydd hyn yn rhoi lle diogel i’ch plentyn rannu ei feddyliau a’i deimladau ei hun. Mae pob plentyn yn haeddu cyfle i ddweud ei ddweud a chael ei glywed, ac rydyn ni am wneud yn siŵr ei fod yn teimlo'n ddiogel ac yn cael ei gefnogi hefyd.

Efallai y byddwn yn gofyn am y bobl o'ch cwmpas a all helpu – teulu, ffrindiau, cymdogion, neu unrhyw un rydych chi'n ymddiried ynddo. Mae deall eich rhwydwaith cymorth yn ein helpu i gynllunio'r ffordd orau o gefnogi'ch teulu.

Rydyn ni'n gwybod y gallai hyn deimlo'n anghyfforddus, ond byddwn yn esbonio popeth wrth i ni fynd. Mae ymweliadau â’r cartref yn ein helpu i ddeall y sefyllfa’n iawn er mwyn i ni allu nodi’r cymorth cywir. Nid beirniadu eich cartref yw eu pwrpas, ond gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn ddiogel ac yn iach.